1 Digiais am na chawn degav
2 di hvn hael fvn ywr hwyl fav
3 dyfod dan wrddion defyll
4 bid i chael mewn bedw achyll
5 can hawddfyd ar hyd yr rhiw
6 i winllan bvn ewynlliw
7 tychan yn daer wrth gaer galch
8 a gryddfan am eigr ryddfalch
9 ban glyby bvn harddlvn hyd
10 gwynfan trvstan rhag tristyd
11 llariaidd i rhoes drwy foes fwyn
12 llef avr ar i llaw forwyn
13 y mae fry fewn anghyflwr
14 yn y winllan gwynfan gwr
15 myfi af mwyaf ofal
16 morwyn deg a mirain dal
17 drwy wydryn draw i edrych
18 drvan oer i dro ai nych
19 pa drichiolaeth gaeth geithiw
20 y sydd yn y gwinwydd gwiw
21 vn diriaid enid oroen
22 enaid em honnaid ym hoen
23 pa vn wyd yn penydiaw
24 dy glwyf o fewn od a glaw
25 dy fardd poenedig digvs
26 dewrfawr wyf mewn dirfa rvs
27 dos ymaith rhag dy somi
28 dilwydd daith ne dy ladd di
29 oernos a welych arnaf
30 y myd avr i mi o daf
31 [474] oni wypwy clydwy clod
32 pwy drecha myn pdr pedr vchod
33 ai ti ai mi o mafael
34 ai mi ai ti y myd hael
35 glan oedd ym enaid y glod
36 fy avr eirian farw erod
37 dillwng dy fardd a dwyllwyd
38 i mewn ddyn ir man i ddwyd
39 ne ddyred wych yn ddirwy
40 yma/n/ ddyn ir man i ddwy
41 ni wnaf ddyn tryan anoeth
42 yr vn or ddav mae rin ddoeth
43 ba beth agais gwr o bell
44 geirfas dwf ger fy stafell
45 ceisiaw heb gvr drwy/r/ mvr maen
46 dy weled loywged liwgaen
47 pa ddwysged ne pa ddisgwyl
48 i ddwyd y gwas gwiwlas gwyl
49 dysgall dyall am diavr
50 disgwyl llyn dyn dwysgall avr
51 pa ryw orllwyn mewn llwyni
52 yn y dail yna wnai di
53 gorllwyn dyn mwyn dawn ym wyd
54 nid gorllwyn gwraig y garllwyd
dauid ap gwylym ai kant